Y Cynllun Perio

Mae’r cynllun hwn wedi ei lunio’n benodol ar gyfer cleifion y canfuwyd fod clefyd periodontol arnynt. Bydd apwyntiadau chwarterol gan hylenydd yn darparu digennu trylwyr a chyngor hylendid geneuol yn benodol i’ch ceg, er mwyn eich helpu i gadw eich gymiau’n iach gartref ac arafu datblygiad y clefyd periodontol.

Cynnwys

  • 2 archwiliad
  • 4 apwyntiad gyda’r hylenydd (yn cynnwys digennu a llathru)
  • Yr holl belydrau x angenrheidiol
  • Yswiriant damwain ac argyfwng deintyddol byd-eang

Cost

Cost y cynllun hwn yw £21.75 y mis.

Mae hyn yn cyfateb i  arbediad blynyddol o £93, gyda gostyngiad o 10% am driniaeth, yn ogystal â sicrwydd yswiriant damwain ac argyfwng byd-eang.