Mae’r cynllun hwn yn addas i gleifion sydd angen ychydig neu ddim gwaith deintyddol ar y pryd ac sydd â gymiau a dannedd iach.
Yn Neintyddfa Llanymddyfri, rydym yn ymrwymo i gyflawni holl agweddau gofal deintyddol ataliol. Dyma ble mae ein tîm yn cydweithio’n agos gyda chi i osgoi, yn y rhan fwyaf o achosion, yr angen am driniaethau ataladwy megis llenwadau. Cyflawnir hyn trwy ymweliadau rheolaidd â’n hylenydd a/neu ein therapydd deintyddol a cheisir taclo achos y problemau fel y gellwch, os dilynwch y cynghorion, osgoi triniaeth bellach.
Fodd bynnag, os bydd angen triniaeth arnoch, mae’r ddeintyddfa wedi buddsoddi’n helaeth yn y cyfarpar deintyddol mwyaf modern i ddarparu’r triniaethau deintyddol diweddaraf o lenwadau gwyn esthetaidd (yn y dannedd blaen ac ôl) hyd at y defnydd o’r ffeiliau nicel-titaniwm diweddaraf i drin sianelau’r gwreiddyn yn ogystal â’r offer pelydr x diweddaraf.
Rydym hefyd yn medru cwblhau nifer o driniaethau cosmetig dewisol yn y ddeintyddfa gan gynnwys gwynnu dannedd, sythwyr orthodontig anweladwy, ailosod hen lenwadau metel â llenwadau gwynion, ailosod hen lenwadau metel â mewnosodiadau seramig (tra esthetaidd), argaenau seramig / coronau seramig, pontydd (yn aml yn medru cymryd lle dannedd gosod symudadwy), mewnblannu pontydd dargadwedig / dannedd gosod (mae gennym fewnblanolegydd tra phrofiadol sy’n cyflawni’r driniaeth yn ein deintyddfa).