Y Cynllun Sylfaenol

Mae’r cynllun hwn yn addas i gleifion sydd angen ychydig neu ddim gwaith deintyddol ar y pryd ac sydd â gymiau a dannedd iach.

Cynnwys

  • 2 archwiliad
  • 2 driniaeth ddigennu a llathru
  • Yr holl belydrau x angenrheidiol
  • Yswiriant damwain ac argyfwng deintyddol byd-eang

Cost

Cost y cynllun hwn yw £12.75 y mis.

Mae hyn yn cyfateb i arbediad blynyddol o £33, gyda gostyngiad o 10% am driniaeth, yn ogystal â sicrwydd yswiriant damwain ac argyfwng byd-eang.